Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cymorth Cyfathrebu mewn Cyfweliad

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Cymorth Cyfathrebu mewn Cyfweliad, sydd ar gael ar https://www.get-disability-work-support.service.gov.uk/csi/.

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r mwyafrif o’r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y mwyafrif o’r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth yn gwbwl hygyrch:

  • Efallai na fydd meddalwedd darllenydd sgrin JAWS yn darllen allan holl benawdau’r tudalennau yn Internet Explorer 11 – mae hwn yn fater hysbys gyda JAWS fersiwn 18 neu uwch, rydym yn argymell defnyddio porwr gwahanol i osgoi’r broblem hon

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch yn cael anhwaster i ddefnyddio'r gwasanaeth, cysylltwch â ni am ddim drwy:

Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol, er enghraifft print bras, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod am broblem hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn.

Proses orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ (y ’rheolaethau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (Na. 2) Accessibility Regulations 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llwyr â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hon

Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2024.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 11 Medi 2024. Cynhaliwyd y profion gan DWP.