Datganiad hygyrchedd ar gyfer Mynediad at Waith

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân am y prif wefan GOV.UK.

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth Gwneud Cais am Fynediad at Waith, sydd ar gael yn www.get-disability-work-support.service.gov.uk/apply.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau a chydrannau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK sy’n cael eu hystyried yn eang i fod yn hygyrch.

Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd defnyddio rhannau o’r gwasanaeth hwn:

  • efallai na fydd penawdau yn cael eu darllen allan gan ddarllenydd sgrin JAWS o fewn Internet Explorer 11 - mae hwn yn hysbus gyda fersiynau 18 a throsodd o JAWS, rydym yn argymell defnyddio porwr gwahanol i osgoi'r broblem hon

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch yn cael anhwaster i ddefnyddio'r gwasanaeth, cysylltwch â ni am ddim drwy:

Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Cysylltwch â ni os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol, er enghraifft print bras, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod am broblem hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ‘Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ (y ‘rheolaethau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.1 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hon

Paratowyd y datganiad hon ar 8 Medi 2020. Fei'i diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2023.

Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 15 Awst 2023. Cynhaliwyd y profion gan DWP.